Lleoliad:
Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 17 Mai 2022
Amser:
09.00 -
09.23
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Siân Gwenllian AS Darren Millar AS |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth, Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Jane Dodds ei hymddiheuriadau.
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr wythnos hon
Dydd Mawrth
Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Prif Weinidog yn ateb Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn rhithwir, gan ei fod yn teithio ar fusnes swyddogol.
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes mai dim ond 9 cwestiwn a gyflwynwyd i'r Gweinidog Newid Hinsawdd i’w hateb yr wythnos hon.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan aelodau’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i newid trefn y dadleuon ddydd Mercher fel y gall Aelodau gyfrannu at ddadl Plaid Cymru ar Iechyd Menywod, cyn teithio i ogledd Cymru ar gyfer busnes pwyllgor. Byddai’r Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y drafodaeth ynghylch egwyddorion absenoldeb Aelodau o’r Cyfarfod Llawn er mwyn gallu bod yn bresennol ym musnes arall y Senedd mewn cyfarfod yn y dyfodol.
Dywedodd y Trefnydd ei bod wedi codi mater yn ymwneud â Gweinidogion yn bod yn bresennol yn y Siambr ar amser ar gyfer eu heitemau busnes yn y Cabinet.
3.2 Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn:
Dydd Mawrth 24 Mai 2022
· Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru (30 munud)
3.3 Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 8 Mehefin 2022 -
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (120 munud)
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar orlifoedd
stormydd yng Nghymru (30 munud)
·
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf
(60 mun)
Dydd Mercher 15 Mehefin 2022 -
4 Deddfwriaeth
4.1 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r pwyntiau a godwyd ynghylch y cyfleoedd ar gyfer Biliau Aelodau yn adroddiad diweddar y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Iaith Arwyddion Prydain. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod papur yn ymwneud â’r potensial ar gyfer adolygu proses ddethol Biliau Aelod.